Dyfarniad Lefel 2 mewn Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl: 1 diwrnod
Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sydd am ennill dealltwriaeth o iechyd meddwl, gyda'r nod o allu darparu cyngor a chymorth ymarferol i eraill yn y gweithle. Mae'n rhoi'r adnoddau a'r wybodaeth i gynrychiolwyr allu nodi arwyddion o straen a chyflyrau iechyd meddwl amrywiol, gyda'r nod o'u harwain tuag at y cymorth cywir a gwella diwylliant iechyd meddwl eu sefydliad. Gallai'r rhai sy'n cyflawni'r cymhwyster hwn symud ymlaen i Ddyfarniad Lefel 3 FAA mewn Goruchwylio Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl. Maes Llafur: Diffinio iechyd meddwl Deall y stigma sy’n ymwneud ag iechyd meddwl Nodi ffactorau a all effeithio ar iechyd meddwl person Deall rôl swyddog cymorth cyntaf ar gyfer iechyd meddwl Amlinellu’r cyngor y dylid ei roi i berson sy’n dioddef o gyflwr iechyd meddwl a amheuir Gwybod pryd i cysylltu â gwasanaethau brys Nodi arwyddion o straen a sut y gellir rheoli straen Adnabod arwyddion a symptomau ar gyfer y cyflyrau iechyd meddwl canlynol; iselder, gorbryder, seicosis, anhwylderau bwyta, hunanladdiad a hunan-niwed. Effeithiau cam-drin alcohol a chyffuriau ar iechyd meddwl person Dangos cymhwysiad y cynllun gweithredu cymorth cyntaf ar gyfer iechyd meddwl Ffactorau allweddol wrth ddarparu diwylliant iechyd meddwl cadarnhaol yn y gweithle Sut i roi diwylliant iechyd meddwl cadarnhaol ar waith yn y gweithle Asesiad: lluosog- prawf dewis. Niferoedd: Uchafswm 16