Sut mae PAS 2035 yn wahanol?
Mae'r PAS hwn yn cynnwys gwaith ôl-osod o safon sy'n dileu problemau sy'n gysylltiedig â diffygion, ôl-osod bas, atebolrwydd, dyluniad gwael a bwlch perfformiad. Mae PAS 2035 yn darparu ymagwedd adeilad cyfan at y broses ôl-osod, gan ystyried y cartref, yr amgylchedd, deiliadaeth ac amcanion gwella deiliaid tai wrth benderfynu ar y mesurau mwyaf addas i'w gosod. Mae hyn yn dileu'r mater o ystyried gwaith ôl-osod ar ei ben ei hun a all niweidio perfformiad cyffredinol yr adeilad yn anfwriadol. At hynny, mae pum rôl ôl-osod newydd hefyd wedi’u cyflwyno o fewn proses PAS 2035, gyda chyfrifoldebau ac atebolrwydd clir wedi’u sefydlu i sicrhau bod unigolion yn darparu ansawdd drwyddi draw.