Codi a Chario - Lefel 2 : cwrs 1 diwrnod
Mae'r cwrs hwn yn darparu dull delfrydol ar gyfer codi a chario mwy diogel a mwy effeithiol - nid yn unig bodloni argymhellion HSE, ond hefyd hyrwyddo arferion da a diogel mewn unrhyw sefyllfa. Maes Llafur Ymdrinnir ag ystod o bynciau a fydd yn arfogi cynrychiolwyr i: Ddeall y rhesymau dros godi a chario yn ddiogel Deall sut mae asesiadau risg codi a chario yn cyfrannu at wella iechyd a diogelwch Deall yr egwyddorion, y mathau o offer a gofynion profi sy'n gysylltiedig â diogelwch codi a chario Gallu cymhwyso egwyddorion codi a chario diogel Hyd y Cwrs Mae'r cwrs hwn yn rhedeg dros o leiaf chwe awr gyswllt y dydd yn yr ystafell ddosbarth, yn cynnwys gweithgareddau ymarferol a damcaniaethol. Niferoedd Uchafswm o 16 o ddysgwyr. Asesu Mae'r hyfforddwr yn cynnal asesiad ymarferol, gan arwain at brawf ysgrifenedig.