Diogelwch Tân - Lefel 2: cwrs 1 diwrnod.
Yn ddiau, byddwch yn ymwybodol iawn o effeithiau dinistriol posibl tanau yn y gweithle o ran bywydau a gollwyd, anafiadau, difrod i eiddo a’r amgylchedd, ac i barhad busnes. Efallai y byddwch hefyd yn ymwybodol y credir bod modd atal y rhan fwyaf o danau. Ategir pwysigrwydd diogelwch tân yn y gweithle gan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch sy'n gosod dyletswydd ar gyflogwyr i sefydlu polisïau a gweithdrefnau a sicrhau bod eu gweithwyr yn derbyn hyfforddiant priodol. Mae’r Cwrs Hyfforddiant Diogelwch Tân hwn wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr sydd eisiau datblygu eu hymwybyddiaeth diogelwch tân sylfaenol er mwyn cynorthwyo eu cyflogwr trwy ymgymryd â rolau diogelwch tân mwy penodol yn y gweithle i reoli risg tân (e.e. fel wardeniaid tân/marsialiaid/stiwardiaid ac ati). Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cymhwyster cenedlaethol lefel 2 (Lefel 5 yn yr Alban). Maes Llafur Ymdrinnir ag ystod o bynciau gan gynnwys: Y peryglon a’r risgiau sy’n gysylltiedig â thân yn y gweithle Y Triongl Tân Mathau o ddiffoddwyr a phryd i’w defnyddio Sut y rheolir risg tân yn y gweithle Rôl y warden tân enwebedig Egwyddorion ac arferion rheoli diogelwch tân yn y gwaith Hyd 6 awr Niferoedd Uchafswm o 16 dysgwr. Asesu Papur cwestiynau Dewis Aml.